English

 

1 2 3 4 5 6 7 8 9

 

LLWYBR TREF

Croeso i’n tref. Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’ch ymweliad ac yn cael cyfle i grwydro. Mae rhywfaint o hanes y dref wedi’i gynnwys ar fyrddau dehongli ac mewn taflenni yn y dref. fictional

Ar hyd Llwybr y Dref fe welwch fwy am hanes y dref, ein hen ddiwydiannau, yr ymdrechion mwyngloddio a fethodd, y ffynnon iachâd a thân mawr 1758 i enwi ond ychydig. Gellir dod o hyd i wybodaeth a hanes ychwanegol yn

GWREIDDIAU’R DREF

Clock Mae’r enw yn deillio o gysegru eglwys y dref i’r Santes Fair a’r gaer hynafol y dywedid iddi gael ei hadeiladu yn rhan olaf y bedwaredd ganrif gan Einion Yrth, degfed mab Cunedda Wledig, brenin Cumbria. Ystyr Llanfair Caereinion yw “Eglwys y Santes Fair wrth Gaer Einion”.

Mae’n ymddangos gyntaf fel Llanveyr ym 1254 a Llanveyr in Kereynon ym 1281/2. Nid oes gan y dref statws Bwrdeistref ond daeth yn dref ar ôl i ffermwyr lleol sefydlu marchnad i werthu eu stoc yma.

Arferai’r porthmyn wersylla ar gaeau Wynnstay i bedoli eu gwartheg cyn troi tua’r de. 

Roedd y dref yn gartref i’r gwneuthurwr clociau enwog Samuel Roberts, oedd yn denant ar fferm ac a ychwanegai at ei incwm trwy wneud clociau taid rhwng 1755-1774, gan ddefnyddio derw Cymreig i wneud llawer ohonynt. Gwnaeth dros 400 o glociau.

 

Roedd un o awduron Cymraeg mwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif, Islwyn Ffowc Elis, yn byw yn y dref hon. Fe’i hordeiniwyd yn weinidog gyda’r Presbyteriaid ym 1950, ac yn ei ofalaeth gyntaf yn Llanfair Caereinion cynorthwyodd y bardd EinglGymreig, R. S. Thomas i feistroli’r Gymraeg. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1951. Mae Cysgod y Cryman ac Yn ôl i Leifior yn disgrifio’r tensiynau cymdeithasol rhwng dwy genhedlaeth ar fferm deuluol fawr, ddychmygol, o’r enw Lleifior, yn Sir Drefaldwyn.

Pan gyhoeddwyd Cysgod y Cryman ym 1953, hon oedd ei nofel gyntaf. Anadlodd fywyd newydd i’r nofel Gymraeg, gan ysbrydoli cenhedlaeth newydd o awduron i fynd ati i ysgrifennu nofelau. Wedi hyn, daeth Islwyn Ffowc Elis i gael ei gydnabod fel nofelydd Cymraeg mwyaf blaenllaw ei oes.

1. Y Milwr a’r Trobwll

Map Preifat Victor M. Jones, 6ed Catrawd Parasiwt (10fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig).

Goroesodd y Preifat Jones ffrwydrad ofnadwy ar HMS Abdiel, er iddo ddioddef anafiadau difrifol. Bedyddiwyd Vic, fel yr oedd yn cael ei adnabod, yn Victor gan iddo gael ei eni ar Ddiwrnod Cadoediad y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Vic yn gweithio i’r masnachwyr glo lleol. Un dydd, cyn dechrau’r rhyfel, pan oedd yn gweithio yn yr iard lo ger Gorsaf y Rheilffordd, roedd ffermwr wedi mynd â dau geffyl gwedd at yr afon i yfed.

Rhuthrodd y ceffylau a llusgo’r ffermwr druan i’r Trobwll yn yr afon a oedd wedi codi’n uchel. Neidiodd Vic i’r afon oedd yn ei llif i geisio achub y ffermwr, ond yn anffodus er iddo fod mor ddewr, ofer fu ei ymgais. Goroesodd y ddau geffyl.

 

 

 

 

2. Neuadd y Farchnad

Market Hall Tynnwyd y ffotograff hwn o Sgwâr y Farchnad yn Llanfair Caereinion tua 1885.

Roedd hen Neuadd y Farchnad yng nghanol y llun yn cynnig lle dan do ar gyfer stondinau marchnad oedd yn gwerthu bwyd a nwyddau lleol eraill. Roedd y llawr uchaf yn un ystafell fawr a gafodd ei defnyddio at wahanol ddibenion dros y blynyddoedd, gan gynnwys fel ystafell ysgol.

Roedd cell fach ar un pen i’r llawr gwaelod. Nid oedd ynddi ffenestri na goleuadau, ac fe’i defnyddid i gadw troseddwyr a oedd wedi’u harestio nes byddai rhywun yn gallu delio â nhw. Cafodd yr hen Neuadd y Farchnad ei dymchwel rai blynyddoedd ar ôl tynnu’r llun hwn, ac agorwyd siop a gwesty ar yr un safle ym 1893.

Mae marchnadoedd y dref yn dyddio’n ôl i gyfnod y Frenhines Anne (1665-1714) a dyma oedd un o nodweddion mwyaf poblogaidd y dref. Byddai stoc a fagwyd yn yr ardal yn cael eu cludo i’r marchnadoedd i’w gwerthu. Cynhelid y farchnad geffylau ger y Llew Du. Bob dydd Iau cynhelid Marchnad Moch a byddai cell Neuadd y Farchnad yn cael ei defnyddio’n aml gan ddynion a fyddai’n cael eu cadw yno dan glo dros nos i sobri!

 

3. Belgium House/ Yr Institiwt

n ystod rhan gynnar y Rhyfel Byd Cyntaf 1914-1918, cyrhaeddodd y Teulu George Lerpwl fel ffoaduriaid o Wlad Belg. Trefnodd Clerc Tref Lerpwl ar y pryd, Mr Edward Pictmere, iddynt fyw mewn tŷ yn Stryd y Bont, a elwir heddiw yn Belgium House. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn Llanfair, dechreuodd Alfred George weithio fel mecanig cerbydau wedi’i brentisio i Llewellyn Jehu a agorodd y garej gyntaf yn Llanfair, sydd bellach yn Bridge Garage, Londis. Ar ôl dychwelyd i Wlad Belg, daeth Alfred George yn brif asiant Ford yng Ngwlad Belg. Penderfynodd mab arall, Fred Jones, a oedd bob amser wedi bod yn hoff iawn o gerdded, ym 1921, yn 33 oed, gerdded o Lanfair i Wlad Belg. Yn ei ddyddiadur, casglodd stampiau swyddogol o’r trefi a’r pentrefi y cerddodd drwyddynt. Mae hefyd yn disgrifio’r dinistr a adawyd gan y rhyfel. Ym mis Medi 1967,

 

4. Old Industries

Brewed Dros 100 mlynedd yn ôl roedd gan y dref 16 o dafarndai. Byddai pob tafarnwr yn bragu ei gwrw ei hun ac yn cael ei gefnogi gan dai bragu mawr. Roedd 3 bragdy wedi’u lleoli yn Stryd Wesle, Ffordd y Mownt a Poplars. Cyflenwid cwrw hefyd i drefi Dolgellau a Machynlleth.

Roedd y diwydiant gwlân yn un sylweddol, a’r defaid lleol yn cynhyrchu gwlanen a gwlân. Gwneid llawer o ddillad yn lleol a’u gwerthu mewn marchnadoedd mewn ardaloedd eraill.

Hat Roedd y diwydiant hetiau yn amlwg hefyd yn yr 1800au. Daeth y Crynwr ifanc, Richard Davies, i’r ardal fel prentis i wneuthurwr ffelt lleol. Gwneid y ffelt gyda gwlân lleol a fyddai’n cael ei guro gan forthwylion trwm. Safle’r diwydiant hetiau oedd Iard Hassals. Dywedid mai un o’r rhesymau dros leoli’r diwydiant hetiau yma oedd ansawdd dŵr y ffynnon yn yr iard.

Coal Cofnodwyd sawl menter fwyngloddio yn yr ardal dros y canrifoedd. Credai un o hen drigolion Llanfair fod plwm o dan fynwent yr Eglwys. Ond er i lawer iawn o arian a llafur gael eu rhoi i gloddio twnnel o wely’r afon ni ddaethpwyd o hyd i blwm.

Roedd llawer o drigolion eraill o’r farn bod yn rhaid bod glo yn y plwyf. Ffurfiwyd cwmni a suddwyd siafftiau mwyngloddio wrth droed Moel Bentyrch (338m o uchder). Roedd y siafft tua 28 metr o ddyfnder, ond buan iawn y blinodd y dynion ar y tyllu. Rhyw 80 mlynedd yn ddiweddarach ym 1871, ail-agorwyd y siafft ac un diwrnod fe gyrhaeddodd newyddion i’r dref fod glowyr wedi dod o hyd i lo o’r diwedd. Canodd clychau’r Eglwys yn uchel y prynhawn hwnnw a dechreuodd y siarad am sut y byddai’r dref yn dod yn ganolbwynt diwydiant o ganlyniad i’r darganfyddiad. Ond roedd y gweithwyr wedi cael eu twyllo. Roedd rhywun wedi taflu llond berfa o lo i lawr y siafft yn ystod y nos!

 

5. Ffynnon Fair

St Mary Well Credir bod y ffynnon yn dyddio’n ôl i ddechrau presenoldeb Cristnogol yn yr ardal ac o bosibl i gyfnod paganaidd cyn hynny. Dros y canrifoedd roedd yn fan pererindod a chredid bod gan y dyfroedd nodweddion iachau, yn enwedig ar gyfer cryd cymalau a chlefydau’r croen. Fe’i defnyddid hefyd ar gyfer bedydd trochi tan yn gymharol ddiweddar. Mae cofnodion eglwysig yn dangos iddi sychu, am y tro
cyntaf yn ei hanes yn yr 1960au pan adeiladwyd twnnel o dan ran o’r dref fel rhan o amddiffynfeydd llifogydd. Roedd hyn yn dilyn llifogydd mawr yn y dref pan oedd y stryd fawr yn edrych yn debycach i afon. Aeth y ffynnon yn adfail, ond yna cafodd ei hadfer ac mae bellach yn cael ei chynnal gan wirfoddolwyr.

 

6. Eglwys y Santes Fair

Church Mae’r enw’r lle hwn yn deillio o gysegru eglwys y dref i’r Santes Fair a’r gaer hynafol y dywedid iddi gael ei hadeiladu yn rhan olaf y bedwaredd ganrif gan Einion Yrth, degfed mab Cunedda Wledig, Brenin Cumbria.

Efallai bod yr eglwys gynharaf ar y safle teras afon hwn wedi’i sefydlu yn y cyfnod canoloesol cynnar pan ddywedid iddi gael ei hadeiladu gan y clas <https://powysenc.weebly.com/churchstoke---clopton.html> ym Meifod. Yn 1239 cofnodwyd bod rhan o’r eglwys wedi’i rhoi i’r lleiandy yn Llanllugan.

Roedd eglwys y plwyf canoloesol mewn cyflwr gwael erbyn oes Fictoria ac fe’i dymchwelwyd a’i hailadeiladu’n llwyr ym 1868 gan ddefnyddio’r tŵr gwreiddiol. Disodlwyd hwn hefyd ym 1887. Cafodd rhai o goed y to o’r 15fed ganrif eu hailddefnyddio yn yr adeilad newydd ynghyd â phorth o’r 13eg ganrif. Ail-osodwyd delw a bedyddfaen oedd yn perthyn i’r canol oesoedd.

 

7. Tân mawr 1758

Llosgwyd rhan fawr o’r dref gan dân dinistriol ym mis Medi 1758. Dywedir i’r tân gynnau yn nhŷ’r crydd, Edward Jones. Roedd yna gymaint o wynt  ar adeg y tân nes iddo ymledu yn gyflym iawn trwy ben uchaf y dref ger Gwesty’r Afr i ran isaf y stryd. Ar y pryd roedd gan lawer o’r tai do gwellt a llosgwyd cyfanswm o ddeg tŷ, saith siop a sawl ysgubor a thai allan. Aeth tŵr yr eglwys ar dân hefyd, oherwydd ei fod wedi ei amgylchynu â phren ar y pryd, ond yn ffodus arbedwyd y rhan fwyaf o’r eglwys.

 

8. Cymdeithas Golau Trydan Llanfair

Mill yn cael ei chysylltu â’r Grid Cenedlaethol yn yr 1950au, roedd gan y dref ei chyflenwadau pŵer ei hun. Gweithredid y cyflenwadau gan gymdeithas golau trydan gydweithredol a sefydlwyd yn lleol ym 1914, gyda thrydan yn cael ei gynhyrchu o dyrbin dŵr a generadur. Cyfeirir at Lanfair fel “Shining Llanfair” nid yn unig oherwydd y tai traddodiadol wedi’u gwyngalchu ond hefyd oherwydd y Gymdeithas Golau Trydan.

Parhaodd y Gymdeithas Golau Trydan i wasanaethu anghenion y gymuned hyd at 28 Ionawr 1950, pan bu ffrwydrad yn y generadur disel. Dilynwyd hyn gan dân ffyrnig a amharodd yn ddifrifol ar y cyflenwad trydan cyhoeddus. Ar y pryd roedd y gymdeithas yn cyflenwi
pŵer i 170 o ddefnyddwyr a 32 lamp stryd.

 

 

9. Ewch ymlaen heibio Gwesty’r Afr i gyrraedd Coed y Deri a Thaith Goedwig Caeau’r Afr

Woods Bydd chwe phanel deongliadol yn cael eu gosod yn y coed a fydd yn rhoi gwybodaeth am leoliad y llwybrau yn y coed a’r cysylltiadau â’r Dref, hanes tŷ’r pwmp, argaeau sydd wedi bod yn gollwng, pam fod torri coed ifanc yn ddefnyddiol i’r coed eraill yn y coed a rôl bwysig Coed y Deri yn chwedlau’r Mabinogi.

Ewch ymlaen heibio Gwesty’r Afr i gyrraedd Coed yDeri a Thaith Goedwig Caeau’r Afr